North Wales Tourism
You are viewing an old version on the North Wales Tourism Website. Information may not be acurate.
Click here to go to the Current Home Page
 

Gwyliau Ysgol

Angen help i osod eich prisiau ac ddim yn gwybod pa bryd mae gwyliau ysgol?
Fe welwch nhw yma

Ar gyfer aelodau sydd â Excel, islwythwch yma os gwelwch yn dda

'Siop Siarad' Aelodau

I gael mynediad i'n 'Siop Siarad', nodwch y trwyddedair os gwelwch yn dda.
Os nad ydych yn gwybod y trwyddedair yna ebostiwch jon.richmond@nwt.co.uk

Aelodaeth o Twristiaeth Gogledd Cymru

A ydych yn gweithredu busnes twristiaeth yng Ngogledd Cymru? Os felly, mae'r safle hon o'r we ar eich cyfer chi. Yr hyn sydd i ddilyn yw crynodeb o fanteision o fod yn aelod o Dwristiaeth Gogledd Cymru, yn ogystal a dolen gyswllt i ffurflen i chwi ei chwblhau os carech i ni anfon rhagor o wybodaeth atoch.

MANTEISION AELODAETH 2005

Llais Twristiaeth

Ymunwch â Thwristiaeth Gogledd Cymru i gael:

  • Un llais dros Weithredwyr Twristiaeth yng Ngogledd Cymru
  • Cysylltiadau, rhwydwaith ddiwydiannol a gwybodaeth
  • Defnydd am ddim ar un o wefannau mwyaf cynhwysfawr twristiaeth Gogledd Cymru
  • Hyrwyddiad eang o Ogledd Cymru fel cyrchfan i dwristiaid
  • Cyfleoedd marchnata gwych
  • Ystod ardderchog o Fanteision i Aelodau

Po gryfa'r sefydliad, cryfa ei lais

Ymunwch â chwmni Twristiaeth Gogledd Cymru ac fe fyddwch yn rhan o sefydliad aelodol mwyaf Cymru . Mae TGC yn aelod o Gynghrair Twristiaeth Cymru sydd â chysylltiad uniongyrchol â Llywodraeth Cynulliad Cymru. Ni yw'r llais ar ran ein diwydiant—mae cryfder mewn niferoedd.

Cymherwch ran wrth fod yn bresennol yn ein Cyfarfod Blynyddol a Hanner Blwyddyn a gynhelir ar draws yr cyffiniau. Siaradwyr gwadd wedi cynnwys Digby Jones, Prif Cyfarwyddwr CBI, Richard Brunstrom, Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru a Mervyn King, Llywodraethwr Banc Lloegr.

Cymrwch fwy o ran weithredol drwy gynnig eich enw i'ch ethol ar ein Bwrdd Cyfarwyddwyr. Mae 12 Cyfarwyddwr etholedig ar y Bwrdd yn cynrychioli byd masnach ar draws Gogledd Cymru.

Cyfle i rwydweithio gydag aelodau eraill o bob sector o'r diwydiant.

Dangoswch ein plac aelodaeth a gydnabyddir fel ‘y' logo i dwristiaeth yng Ngogledd Cymru.

Mae ein cyfathrebu aml trwy e-bost yn eich diweddaru gyda'r y newyddion diweddaraf ar y diwydiant, gwybodaeth am digwyddiadau ac yn ychwanegol rhybuddion e-bost am scamsiau, cons ac ‘ymwelwyr trafferthus'.

Hyrwyddo eich busnes

Arbed 20% pan yn hysbysebu yn y llyfryn Gwyliau Gwych Twrisiaeth Gogledd Cymru—un o lyfrau gwyliau mwyaf poblogaidd y rhanbarth. Yn y wefan berthnasol www.great-breaks.co.uk ceir nifer o gynigion am delerau arbennig.

AM DDIM! - Manylion eich busnes ar ein wefan—www.nwt.co.uk gyda dros 6,000 o ymwelwyr yn taro i mewn yn wythnosol.

Os byddwch angen cynghorion marchnata rydym yma i'ch helpu. Siaradwch gyda ni am hysbysebu yn y wasg, Cysylltiadau Cyhoeddus a chynhyrchu pamffledi.

AM DDIM! - Rhowch fanylion eich busnes ar ein system archebu ystafelloedd ar-lein ROOMCHECK www.stayinnorthwales.com. Gallwch hefyd gysylltu eich gwefan chi i mewn i'n system ni i ddangos pa ‘stafelloedd sydd gennych i'w gosod.

 

Pwer Pwrcasu = Disgowntiau!

Cyfraddau Ffafriol cardiau credyd a debyd gan Streamline Merchant Services, a dim isafswm bris na chost cychwynnol , ac felly gallwch gymryd taliadau a blaendaliadau yn ddi-ffwdan. Mae'r cyfraddau'n cychwyn cyn ised ag 1.13%, yn dibynnu ar eich trosiant busnes a gwerth tocyn.

Telerau Cyfrif Banc Ffafriol a Bancio Electronig gyda HSBC

10% o ddisgownt ar Gynllun Yswiriant Allweddol Windsor —yn arbennig ar gyfer lletyaeth hunan-arlwyaeth i roi'r diogelwch ehangaf am y pris isaf.

Disgownt wrth lunio gwefan, hysbysebu, cofrestru enw a syrffio am wybodaeth - cyfeiriwch at ein Cyfeirlyfr Cyflenwyr i Aelodau.

Arbedion di guro ar brisiau cludo ceir ar longau Irish Ferries i Iwerddon.

Cyfeirlyfr Cyflenwyr i Aelodau - telerau arbennig a disgowntiau gan amrywiaeth o gyflenwyr. Cadwch eich copi yn hwylus wrth law!

 

..a rhai ychwanegiadau gwerthfawr

Gwasanaeth Lloffwr Llofftydd AM DDIM i'n hollweithredwyr lletyaeth. Ein casgliad poblogaidd o bamffledi atyniadau, mewn llyfryn rhwymyn troellog hwylus i'ch cyrraedd cyn Y Pasg.

Taflenni Dyddiau Allan Gwych AM DDIM —anfonwch y rhain pan fyddwch yn ateb unrhyw ymholiad i helpu i'w droi yn fusnes cadarnhaol.

Tocyn Mynediad i Atyniadau - AM DDIM - i 100 o safleoedd ledled Cymru. Dysgwch fwy am y sector atyniadau cyn trosglwyddo'r wybodaeth i'ch cwsmeriaid.

Yswiriant Canslo Gwyliau —diogelwch eich incwm drwy gynnig hwn i'ch cwsmeiriaid a chithau'n cael 20% o gomisiwn ar y primiynau a delir! Tawelwch meddwl i bawb.

Prisiau cystadleuol ‘Welcome Products' , i'n haelodau ni yn unig ar sebon a shampw/trochion bath a chawod, ac yn gyfarchiad dwyieithog ‘Croeso i Ogledd Cymru / Welcome to North Wales '.

NEWYDD - disgownt 10% oddi ar eich aelodaeth bersonol os gallwch ddenu aelod newydd i ymuno â Twristiaeth Gogledd Cymru!






Please click for help

Cliciwch yma i fynd i'r
Ffurflen Aelodaeth
(Saesneg yn unig)

Cliciwch yma i fynd i dudalen
Manteision i Aelodau
(Saesneg yn unig)

Beth sydd gan ein haelodau i'w ddweud amdanom ni:

“Twristiaeth Gogledd Cymru yw'r llais mwyaf effeithiol dros ennyn cefnogaeth i dwristiaeth yn y rhanbarth. Rhydd gefnogaeth amhrisiadwy i aelodau unigol, waeth beth fo maint eu busnes, drwy roi iddynt yr wybodaeth ddiweddaraf am amrywiaeth o faterion sy'n effeithio'r diwydiant."

Pat Green – Glyntwrog House, Betws-y-Coed
 


“Mae bod yn aelod o Twristiaeth Gogledd Cymru yn arbed arian i ni – mae terfynnell electroneg TGC yn ddefnyddiol iawn i'n busnes. Telir am oddeutu 80% o fusnes ein ty bwyta gyda cardiau credyd a debyd a'r telerau gwych a drefnwyd gan TGC am ein bod yn aelod wedi bod yn fanteisiol iawn.”

Graham a Meira Shimmin – The Calcot Arms, Treffynnon


“Twristiaeth Gogledd Cymru – arwydd y gallwch ddibynnu arno.”

Bernard Summerfield – Parc Gwyliau Ty Hen, Rhosneigr


“Fel ffermwr sydd newydd arallgyfeirio mewn ardal wledig cefais gefnogaeth ardderchog gan staff Twristiaeth Gogledd Cymru, ac yn enwedig yn dilyn trychineb clwy traed a genau 2001 i amaethyddiaeth. Cawsom gymorth arbennig i hysbysebu a hyrwyddo'r busnes, a thrwy hynny lwyddo i ddenu nifer fawr o ymwelwyr o wledydd Prydain ac o dramor."

Aled Owen – Ewe-Phoria, Llangwm ger Corwen


“Rydym wedi ein plesio'n arw gyda system LLogi Ystafelloedd Twristiaeth Gogledd Cymru. Mae'r staff mor gyfeillgar ag effeithlon - a chawsom fwy o fusnes.

Judith Irwin – Gwesty Kensington, Llandudno


“Pan aethom ati i lansio'n busnes twristiaeth roeddem yn arbennig o ddiolchgar i Twristiaeth Gogledd Cymru. Cawsom gyngor gwerthfawr iawn gan yr uwch swyddogion gyda materiom cyllid, marchnata a chysylltiadau cyhoeddus, ac roedd brwydfrydedd staff TGC yng Nghanolfan Gwybodaeth Twristiaeth, Pwllheli yn elfen dyngedfenol i wthio'r cwch i'r dŵr yn llwyddiannus wrth sicrhau cychwyniad da i'r prosiect.”

Alan Gray, Shearwater Coastal Cruises, Llanbedrog


Twristiaeth Gogledd Cymru,
77 Ffordd Conwy,
BAE COLWYN, LL29 7LN

Jon Richmond
Ffôn: 01492 539068 jon.richmond@nwt.co.uk

Deborah Nettleton
Ffôn: 01492 539067 deborah.nettleton@nwt.co.uk


77 Ffordd Conwy, Bae Colwyn,
LL29 7LN
f. 01492 531731 ff. 01492 530059
e. croeso@nwt.co.uk